Ymateb wedi’i ddiweddaru gan y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Cyflwynwyd ymateb gennym i’r Pwyllgor yn ddiweddar ynglŷn â’r Rheoliadau uchod. Ymateb wedi’i ddiweddaru yw hwn.

Yn ein hymateb gwreiddiol i’r Pwyllgor, ymdriniwyd â’r ail bwynt technegol yn adroddiad y Pwyllgor. Gwnaed y pwynt o dan Reol Sefydlog 21.2(v) bod angen eglurhad pellach ynglŷn â ffurf y geiriau. Roedd y Pwyllgor yn bryderus bod ymadroddion fel “mewn unrhyw ddarpariaeth yng nghyfraith yr UE a ddargedwir a oedd yn gweithredu…” yn aneglur, a heb fod o gymorth i’r darllenydd. Roeddem yn derbyn y pwynt hwn ac ymrwymwyd i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r Rheoliadau drwy OS diwygio pellach.

Ar ôl ystyried y diwygiadau sydd i’w gwneud, fodd bynnag, ac ar ôl derbyn cyngor gan y Cofrestrydd OS yn yr Archifau Gwladol, credwn yn awr ei bod yn briodol gwneud y cywiriadau perthnasol drwy ailargraffiad wedi’i gywiro o O.S. 2019/456 (Cy.109). Bydd yr ailargraffiad wedi’i gywiro yn mewnosod troednodiadau yn y mannau priodol yn y Rheoliadau i dynnu sylw penodol at y darpariaethau perthnasol yng nghyfraith yr UE a ddargedwir y cyfeirir atynt. Ychwanegir troednodyn i reoliadau 5(3)(a), 5(4)(a) a 5(7)(a) i gyfeirio’r darllenydd at Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 a oedd yn gweithredu Cyfarwyddeb 2011/92/EU (a ddiffinnir fel “y Gyfarwyddeb AEA” yn y Rheoliadau). Ychwanegir troednodyn pellach i reoliad 5(6) i gyfeirio’r darllenydd at Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015 a oedd yn gweithredu Cyfarwyddeb 2012/18/EU (a ddiffinnir fel “y Gyfarwyddeb” yn y Rheoliadau).

Dylid nodi y byddai OS diwygio neu, fel yn yr achos hwn, ailargraffiad wedi’i gywiro, yn cael y canlyniad a ddymunir o well eglurder i helpu’r darllenydd. Caiff yr ailargraffiad o’r OSC ei ddarparu’n rhad ac am ddim i bob un y mae’n hysbys iddo dderbyn y copi a gyhoeddwyd yn wreiddiol.